#                                                                                      

 

 

 

 


Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil: Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

Rhif y ddeiseb: P-05-790

Teitl y ddeiseb: Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

 Pwnc y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru. Mae llywodraeth ddatganoledig yn "llywodraeth sy'n nes at y bobl" - yr holl bobl!

Yn ddiweddar, symudais i Gymru ac rwyf wedi syrthio mewn cariad â phopeth Cymreig. Ond bob dydd mae fy hapusrwydd yn gymysg â thristwch mawr oherwydd rwy'n pasio cynifer o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae eu diflastod parhaus yn sarhad i'm dynoliaeth. Fel unigolyn, ni allaf ddatrys eu problem ar fy mhen fy hun ond gyda'n gilydd fel llywodraeth a phobl y gallwn ni wneud gwahaniaeth.

Mae'r bobl ddigartref yr wyf yn eu pasio bob dydd yng Nghymru wedi nodi eu bod yn teimlo fel "pobl angof”. Maent yn byw mewn cylch dieflig y gellir ei dorri dim ond os bydd y llywodraeth yn gosod strategaeth glir i'w cael oddi ar y stryd ac i mewn i lety diogel er mwyn iddynt adennill eu bywydau. Tua phythefnos yn ôl pasiais berson digartref a dywedodd rhywun bod unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn dymuno bod yn ddigartref. Wrth i mi ddadlau yn erbyn y rhesymeg hon, gwelsom ddyn digartref ger City Road yn darllen llyfr! ​

Nid oes neb yn dewis bod yn ddigartref. Mae pobl yn dod yn ddigartref o ganlyniad i amgylchiadau penodol ac mae gan y llywodraeth ddyletswydd i gael pobl oddi ar y stryd fel y gallant fod yn ddinasyddion gweithredol a all fyw gydag urddas, cael mynediad i gyfleoedd gwaith a gallu pleidleisio. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru helpu unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Nid yw hyn yn datrys problem unigolion sydd eisoes yn ddigartref ac yn cysgu ar y strydoedd. Mae angen inni roi sylw i gysgu ar y stryd nawr!

Cysgu ar y stryd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi  wedi diffinio'r sawl sy'n cysgu ar y stryd fel a ganlyn:

'People sleeping, about to bed down (sitting in/on or standing next to their bedding) or actually bedded down in the open air (such as on the streets, in tents, doorways, parks, bus shelters or encampments). People bedded down in buildings or other places not designed for habitation (such as stairwells, barns, sheds, car parks, cars, derelict boats, stations or “bashes”).

Mae awdurdodau lleol wedi cynnal ymarfer monitro cenedlaethol o ran pobl sy'n cysgu ar y stryd yn 2015 a 2016 i geisio mesur lefel cysgu ar y stryd ledled Cymru.

Yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd gan asiantaethau lleol, sefydliadau iechyd a grwpiau gwasanaeth cymunedol eraill mewn cysylltiad â phobl sy'n cysgu ar y stryd yn y pythefnos 10-23 Hydref 2016, amcangyfrifodd awdurdodau lleol bod  313 o bobl yn cysgu ar y stryd  ledled Cymru dros y cyfnod hwn. Adroddodd awdurdodau lleol gyfanswm o 141 o unigolion yn cysgu ar y stryd  yng Nghymru rhwng 10pm ddydd Iau, 3 Tachwedd a 5am ddydd Gwener, 4 Tachwedd 2016. Adroddodd awdurdodau lleol hefyd fod yna 168 o welyau brys ar gael yng Nghymru, yr oedd 40 (24 y cant) ohonynt yn wag  ac ar gael ar 3 Tachwedd 2016.

Yn 2015, yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd gan asiantaethau lleol, sefydliadau iechyd a grwpiau gwasanaeth cymunedol eraill mewn cysylltiad â phobl sy'n cysgu ar y stryd yn y pythefnos 2-15 Tachwedd 2015, amcangyfrifodd awdurdodau lleol bod 240 o bobl yn cysgu ar y stryd  ledled Cymru dros y cyfnod hwn. Adroddodd awdurdodau lleol gyfanswm o 82 o unigolion yn cysgu ar y stryd yng Nghymru rhwng 11pm ddydd Mercher, 25 Tachwedd a 3am ddydd Iau 26 Tachwedd 2015. Adroddodd awdurdodau lleol hefyd fod yna 180 o welyau brys ar gael yng Nghymru, yr oedd 19 (11 y cant) ohonynt yn wag  ac ar gael ar 25 Tachwedd.

Dylid nodi na ellir gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng gwahanol ymarferion cysgu ar y stryd oherwydd gwahaniaethau yn yr amseru, y fethodoleg a'r ardal a gwmpaswyd. Gall ystod o ffactorau effeithio ar gyfrifon un noson o bobl sy'n cysgu ar y stryd, fel lleoliad, amseru a'r tywydd. O'r herwydd, mae cyfrifon Tachwedd 2015 a 2016 yn amcangyfrifon cipolwg, ac ni allant ond rhoi syniad eang iawn o lefelau cysgu ar y stryd ar noson y cyfrif.

Deddf Tai (Cymru) 2014

O dan Adran 73Deddf Tai (Cymru) 2014 mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i helpu i sicrhau llety ar gyfer pob ymgeisydd a asesir yn ddigartref am gyfnod o 56 diwrnod  (neu lai os ydynt yn teimlo bod camau rhesymol i helpu i sicrhau llety wedi eu cymryd). Nid oes rhaid i awdurdod lleol sy'n helpu i sicrhau llety o reidrwydd ddarparu neu ganfod y llety ei hun. Ar ôl y cyfnod 56 diwrnod, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd barhaus o dan Adran 75 i  sicrhau llety i'r rheini sydd ag angen blaenoriaeth nad ydynt wedi dod yn ddigartref yn fwriadol. Mae yna hefyd ddyletswydd dros dro o dan Adran 68 i  sicrhau llety  diogel os oes gan awdurdod reswm dros gredu bod ymgeisydd yn gymwys, yn ddigartref ac mewn angen blaenoriaeth hyd nes bydd asesiad llawn o'i amgylchiadau yn cael ei gynnal.

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ystod 2016-17, cafodd 9,210 o gartrefi eu hasesu fel rhai o dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn 56 diwrnod. Ar gyfer 5,718 o gartrefi (62 y cant) cafodd digartrefedd ei atal yn llwyddiannus am o leiaf 6 mis.

Yn ystod 2016-17, cafodd 10,884 o gartrefi eu hasesu fel rhai digartref ac roedd dyletswydd i'w helpu i sicrhau llety. O'r rhain, cafodd 4,500 o gartrefi (41 y cant) eu rhyddhau'n llwyddiannus o'u digartrefedd a chawsant gymorth i sicrhau llety a oedd yn debygol o bara am 6 mis.

Yn yr un cyfnod, cafodd 2,076 o gartrefi eu hasesu fel rhai oedd yn  fwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaeth. O'r rhain, cafodd 1,674 (81 y cant) o gartrefi eu rhyddhau'n gadarnhaol trwy dderbyn llety addas sefydlog.

Ar 31 Mawrth 2017, roedd 2,013 o gartrefi mewn llety dros dro ledled Cymru, gyda 189 o gartrefi mewn llety gwely a brecwast.

Barn y sector

Mae nifer o sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ddigartref wedi mynegi pryderon nad yw  Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gwneud digon i'r bobl hynny sy'n cysgu ar y stryd. Maeelusen Wallich wedi datgan nad yw'r ffocws ar atal digartrefedd wedi ystyried y sawl sy'n cysgu ar y stryd yn llawn. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod y ffocws wedi bod ar agenda ataliol nad yw wedi ystyried yn llawn y rhai sy'n cysgu ar y stryd a'r rhai sydd â ffordd o fyw sydd wedi'i leoli ar y stryd. Tra dywedodd Shelter Cymru  bod strategaeth ddigartrefedd Llywodraeth Cymru yn profi'n ffordd well o lawer o ddelio â digartrefedd i'w cleientiaid, ond nad yw'n gweithio mor effeithiol i bobl sydd mewn gwirionedd yn ddigartref.  Dywedant ein bod yn well wrth atal digartrefedd nag yr oeddem yn y gorffennol ond nad ydym cystal yn helpu pobl unwaith y byddant wedi syrthio i'r sefyllfa honno ac yn byw ar y strydoedd.

Mae Sefydliad Bevan yn nodi nad yw Deddf Tai (Cymru) 2014  yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddod o hyd i lety i bobl nad ydynt mewn angen blaenoriaeth neu sydd wedi'u dosbarthu fel rhai nad ydynt yn cydweithredu â'r cymorth a gynigir. Mae'n mynd ymlaen i esbonio mai terminoleg gyfreithiol yw hyn am berson sengl heb blant, neu rywun sydd â salwch meddwl, ond y gall ymdopi gyda meddyginiaeth, neu rywun sydd wedi gwrthod cynnig cartref efallai oherwydd ei fod yn rhy bell i ffwrdd.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i'r ddeiseb, dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans:

'Mae Ffyniant i Bawb, ein strategaeth genedlaethol, yn nodi ein barn ei bod yn annerbyniol i bobl orfod cysgu ar y strydoedd ...

Mae ein Gweithgor Cysgu ar y Stryd cynghori cenedlaethol wedi bod yn ystyried y cynnydd diweddar mewn cysgu ar y stryd a sut orau i fynd i'r afael â hyn.'

Mae llythyr y gweinidog yn mynd ymlaen i esbonio rhai o'r dyletswyddau newydd a grëwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014,  yn nodi bod Llywodraeth Cymru, dros dair blynedd, wedi rhoi dros £10 miliwn o gyllid trosiannol  i awdurdodau lleol i gyflawni'r dyletswyddau hyn, ac yn datgan bod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o help i fwy o bobl na'r ddeddfwriaeth flaenorol, ac yn gwneud hynny mewn ffordd fwy adeiladol ac amserol.

Mae llythyr y Gweinidog hefyd yn rhoi manylion am yr arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd, gan gynnwys:

§  Y grant atal digartrefedd o £5 miliwn  sy'n cefnogi gwasanaethau, gan gynnwys allgymorth i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd, gwasanaethau dydd, llochesi nos, ac atal digartrefedd ieuenctid;

§   £2.6 miliwn o gyllid ychwanegol  a gyhoeddwyd dros yr haf ar gyfer prosiectau i wella gwasanaethau ymhellach i helpu pobl ddod oddi ar y stryd, gan ganolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd ieuenctid;

§  Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2018/19 yn cynnwys £6m ychwanegol yn y Grant Cymorth Refeniw ar gyfer 2018/19 a 2019/20 i awdurdodau lleol barhau â gweithgaredd atal digartrefedd a gefnogwyd yn flaenorol trwy gyllid trosiannol. Mae'r arian hwn yn ychwanegol at y £6 miliwn sydd eisoes yn y setliad eleni (2017/18)  i gydnabod newidiadau i gyllido ffioedd rheoli llety dros dro, ac y bwriedir iddo adeiladu ar y cynnydd hyd yn hyn wrth weithredu Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014; a

§  Bydd yna gynnydd o £4 miliwn y flwyddyn yn y Grant Atal Digartrefedd am y ddwy flynedd nesaf i gefnogi'r ymgyrch i ddod â digartrefedd i ben, gyda gwaith penodol i fynd i'r afael â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dod â'r angen i unrhyw un gysgu ar y stryd i ben.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.